Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 19 Ionawr 2017
Amser: 09.17
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3875
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Simon Thomas AC (Cadeirydd) Mike Hedges AC Huw Irranca-Davies AC David Rees AC Steffan Lewis AC Nick Ramsay AC Mark Reckless AC |
Tystion: |
Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Chris Tudor-Smith, Llywodraeth Cymru Rhodri Jones, Llywodraeth Cymru Lee Marshall, Pwyllgor Ymgynghorol Ailgylchu Awdurdodau Lleol Brian Mayne, Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff Clare McCallan, Cyfoeth Naturiol Cymru Becky Favager, Cyfoeth Naturiol Cymru Kim Gutteridge, RSPB Dr Stephen Marsh-Smith, Afonydd Cymru Dr Patrick Bishop, Cymdeithas Cyfraith Amgylcheddol y DU James Byrne, Ymddiriedolaethau Natur Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Georgina Owen (Dirprwy Glerc) Gemma Gifford (Dirprwy Glerc) Christian Tipples (Ymchwilydd) Helen Jones (Ymchwilydd) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Eluned Morgan AC.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd Huw Irranca-Davies AC, a oedd yn dirprwyo ar ran Eluned Morgan AC.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) gan Rebecca Evans AC, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Chris Tudor-Smith, Uwch Swyddog Cyfrifol, Llywodraeth Cymru; a Rhodri Jones, Rheolwr y Bil, Llywodraeth Cymru.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) gan Brian Mayne, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Cymru – Effeithlonrwydd Adnoddau a Rheoli Gwastraff, Ricardo Energy & Environment, ac aelod o'r Sefydliad Siartredig Rheoli Gwastraff; a Lee Marshall, Prif Swyddog Gweithredol, Pwyllgor Ymgynghorol Ailgylchu Awdurdodau Lleol.
7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) gan Clare McCallan, Rheolwr y Prosiect Treth Gwarediadau Tirlenwi, Cyfoeth Naturiol Cymru; a Becky Favager, Rheolwr Gwastraff ac Adnoddau - Cyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru.
7.2 Cytunodd Cyfoeth Naturiol Cymru i:
· gadarnhau a fydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru yn ddogfen gyhoeddus; a
· darparu nodyn ar safleoedd tirlenwi ledled Cymru sydd â thrwydded i waredu gwastraff peryglus.
8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) gan Kim Gutteridge, Pennaeth Grantiau, Codi Arian Mawr - Cynllunio a Datblygu, RSPB; Dr Stephen Marsh-Smith, Afonydd Cymru; Dr Patrick Bishop, Uwch Ddarlithydd, Coleg y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Abertawe, a Chymdeithas Cyfraith Amgylcheddol y DU; a James Byrne, Rheolwr Tirweddau Byw, Ymddiriedolaethau Natur Cymru.
9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru).
10.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth hon a chytunodd i ysgrifennu at Archwilydd Cyffredinol Cymru.
11.1 Cytunodd y Pwyllgor i ddilyn y drefn a ganlyn o ran trafod y gwelliannau a gyflwynir i'r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) yng Nghyfnod 2:
Adrannau 2-13 |
Atodlen 2 |
Adrannau 14-17 |
Atodlen 3 |
Adran 18 |
Atodlen 4 |
Adrannau 19-30 |
Atodlenni 8-21 |
Adrannau 31-32 |
Atodlen 5 |
Adrannau 33-40 |
Atodlen 6 |
Adran 41 |
Atodlen 7 |
Adrannau 42-75 |
Atodlen 22 |
Adrannau 76-80 |
Adran 1 |
Atodlen 1 |
Teitl hir |
12.1 Trafododd y Pwyllgor oblygiadau ariannol y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Cytunwyd y dylid gwahodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i'r Pwyllgor at ddibenion craffu pellach.